Cael tystysgrif ynni newydd
I gael tystysgrif ynni newydd ar gyfer eich cartref, eich eiddo busnes neu’ch adeilad cyhoeddus, mae angen ichi ei asesu.
Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English) .
Trefnu asesiad eiddo i gael un newydd o’r rhain:
- tystysgrif perfformiad ynni (EPC)
- tystysgrif ynni i’w harddangos (DEC) ar gyfer adeilad cyhoeddus
- tystysgrif ac adroddiad arolygu aerdymheru
Mae cost asesiad yn amrywio yn ôl asesydd a maint yr eiddo.
Ar ôl yr asesiad, bydd yr asesydd yn rhoi copi digidol o’ch tystysgrif i chi.
Gallwch hefyd weld neu argraffu tystysgrif ynni sy’n bodoli eisoes.
Dod o hyd i asesydd
Dod o hyd i asesydd achrededig ar gyfer eich cartref, eich eiddo busnes neu’ch adeilad cyhoeddus. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon.
Mae yna broses wahanol os ydych am ddod o hyd i asesydd achrededig yn yr Alban .
Pan fyddwch yn dod o hyd i asesydd:
- cysylltu â nhw’n uniongyrchol i drefnu iddyn nhw weld yr eiddo
- gwirio eu bod yn rhan o gynllun achrededig
Beth mae angen i chi wybod
Gallwch wirio a oes gan yr eiddo dystysgrif ynni ddilys eisoes .
Cael help i ddod o hyd i asesydd ynni
I gael help i ddod o hyd i asesydd, cysylltwch â’r Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG).
mhclg.digital-services@communities.gov.uk
Ffôn: 020 3829 0748
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Gwybodaeth am daliadau am alwadau
Os ydych chi’n anfodlon ar yr asesiad
Gallwch gwyno wrth yr asesydd yn uniongyrchol. Os ydych yn dal yn anfodlon, gallwch gysylltu â chynllun achredu’r asesydd. Bydd eu manylion cysylltu nhw ar y dystysgrif perfformiad ynni.