Dod o hyd i dystysgrif ynni
Dod o hyd i dystysgrif ynni ar gyfer eiddo yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon. Mae hyn yn cynnwys cartrefi, eiddo busnes ac adeiladau cyhoeddus.
Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English) .
Mae yna wasanaeth gwahanol i ddod o hyd i dystysgrif ynni ar gyfer eiddo yn yr Alban .
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i ddod o hyd i’r canlynol:
- tystysgrif perfformiad ynni (EPC)
- tystysgrif ynni i’w harddangos (DEC) ar gyfer adeilad cyhoeddus
- tystysgrif ac adroddiad arolygu aerdymheru
Os nad oes gan eich eiddo dystysgrif ynni neu os yw wedi dod i ben, gallwch gael tystysgrif ynni newydd .
Gallwch chwilio am dystysgrif yn ôl cod post, enw stryd a thref, neu rif tystysgrif.
Beth mae angen i chi wybod
Cael help i ddod o hyd i dystysgrif ynni
Os oes arnoch angen help i ddod o hyd i dystysgrif neu adroddiad ynni, cysylltwch â’r Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG).
mhclg.digital-services@communities.gov.uk
Ffôn: 020 3829 0748
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Gwybodaeth am daliadau am alwadau